Achub y Teifi

Adroddiadau Cyfarfodydd - Eu gweld ar y  ddolen hon

  • Adroddodd dau bapur newydd lleol ar ein cyfarfod cyntaf ar 25 Awst ac egluro rhai o'r problemau a'r heriau. Darllenwch nhw yma:    Ansawdd Dŵr Afon Teifi * ac  Halogiad Afon Teifi   * Nodyn:  Mae gwall yn yr erthygl yn disgrifio Dŵr Cymru fel asiantaeth y llywodraeth sy'n gyfrifol am reoli dŵr  - Dŵr Cymru yw'r unig gwmni Dŵr Nid-er-elw yn y DU.
  • Mynychodd dros 100 o bobl ein hail gyfarfod yn Llechryd ar 29 Medi. Gwnaed cyflwyniadau gan: Cyngor Sir Ceredigion, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Dŵr Cymru. Mae'r rhain ar gael ar y dudalen Adroddiadau hon
  • Roedd bron i 80 yn bresennol yn ein trydydd cyfarfod yn Llandudoch ar 28 Tachwedd. Gwnaed cyflwyniadau gan CNC ar eu prosiect Pedair Afon LIFE ac fe wnaeth Dŵr Cymru ein diweddaru ar y buddsoddiad arfaethedig sydd ganddynt ar gyfer y Teifi. Mae'r cyflwyniadau hyn ar gael ar y Dudalen wefan Adroddiadau hon.


Fforwm

Mae gennym Fforwm yn awr i'n galluogi i gyfathrebu a rhoi sylwadau ar-lein 

Ein Cynllun Achub - Gweler ein rhestr Camau gweithredu :

 

  1. Ymunwch â'n grŵp Cyfeillion y Teifi, bydd y cyfarfod nesaf: I'W GADARNHAU
  2. Parchwch ein hafon.  Dysgwch Amdani, Ewch i ymweld â hi, dysgwch ei Hanes, ewch â’r plant i chwarae wrthi, rhannwch luniau. (Gweler Yr Oriel - am olygfa o’r awyr ar hyd y Teifi). Rhowch wybod am broblemau i CNC a Dŵr Cymru
  3. Llywodraeth Cymru sydd â'r cyfrifoldeb am lygredd, afonydd a dŵr. Ysgrifennwch atynt yn eu hannog i achub ein hafon.
  4. Llofnodwch ddeisebau priodol (e.e. Greenpeace, Change.org)
  5. Dechreuwch Fonitro'r Teifi a'i Llednentydd – Defnyddiwch Ap ar eich ffôn i gofnodi gwybodaeth yn y maes er mwyn ei anfon i Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru. Ymunwch â grŵp Adopt a Tributary: cysylltwch â Nathaniel James o Brosiect Adfer y Teifi os ydych am ymuno.
  6. Cyfrannwch at achosion cenedlaethol ee: Good Law Project



Achub y Teifi’n beirniadu “sbri fandaliaeth amgylcheddol” gan Lywodraeth San Steffan


Mae angen dyrannu llawer mwy o adnoddau i wella cyflwr afon Teifi yn llawer cynt na’r bwriad, yn ôl llefarydd ar ran ymgyrch Achub y Teifi, sy’n falch fod y mater wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Mae gwaith lliniaru a lleihau ffosffodau ar waith yn yr afon ar hyn o bryd, ond mae angen cymryd mwy o gamau ac yn gyflymach, yn ôl Swyddog Ymgyrchoedd y Wasg yr ymgyrch.

Nod y prosiect Lleihau a Lliniaru Ffosffad (PRAM) yw gwella cyflwr afon Teifi, Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig, trwy leihau’r llwyth ffosfforws a diogelu’r dreftadaeth naturiol.


Achub y Teifi’n beirniadu “sbri fandaliaeth amgylcheddol” gan Lywodraeth San Steffan – Golwg360

Mae’r Afon Teifi'n marw

Mae carthion a chemegion yn llygru ein hafon a does dim digon yn cael ei wneud i'w atal. Mae'r Teifi wedi bod yn anadl einioes ein hardal ers canrifoedd - gwallgofrwydd yw fod yr halogi hwn wedi cael digwydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y tudalennau Prif Adnoddau a Newyddion.